News

Income Maximisation and Benefit Take-up Working Group

23rd January 2021

Income Maximisation and Benefit Take-up Working Group

Please see below the toolkit designed as part of our National Welfare Benefit Take-up Campaign.

Helo

Yn ôl ymchwil ddiweddar, rydym yn gwybod bod miloedd o bobl yng Nghymru nad ydyn nhw’n hawlio’r budd-daliadau y mae ganddyn nhw hawl iddynt.

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgyrch gyfathrebu integredig i annog pobl i wirio a hawlio’r budd-daliadau y mae ganddyn nhw hawl iddynt. Bydd yr ymgyrch yn targedu teuluoedd incwm isel ledled Cymru, yn ogystal â chynulleidfa ehangach o bobl y gallai fod angen cymorth arnyn nhw yn awr oherwydd effeithiau ariannol y pandemig.

Byddwn yn cyfeirio pobl i dudalen lanio ymgyrch bwrpasol sydd ar wefan Llywodraeth Cymru llyw.cymru/hawliadyarian lle byddwn yn annog ymwelwyr i ffonio llinell gymorth Advicelink Cymru am gymorth ar 0808 250 5700.

Mae angen eich cymorth chi arnom i godi ymwybyddiaeth o’r ymgyrch ar draws eich sianeli a’ch rhwydweithiau, i gyrraedd pobl nad ydyn nhw’n hawlio budd-daliadau y gallai fod ganddyn nhw hawl iddynt.

Rydym wedi datblygu cyfres o asedau (gan gynnwys hysbyseb i’r wasg, taflen A5 a fideos cyfryngau cymdeithasol x 4) y gellir eu hychwanegu’n hawdd at wefannau a sianeli cymdeithasol.

Tagio ar gyfryngau cymdeithasol

Byddwn yn darparu awgrym o gopi cyfryngau cymdeithasol yn Gymraeg ac yn Saesneg i gefnogi’r asedau digidol sydd wedi’u creu os ydych yn hapus i bostio’n uniongyrchol o’ch sianeli. Rydym hefyd yn eich cynghori i ddefnyddio #claimwhatsyours / #hawliadyarian pan fo hynny’n bosibl.

Bydd yr holl gynnwys y talwyd amdano yn cael ei hyrwyddo o sianeli cyfryngau cymdeithasol Llywodraeth Cymru felly gofynnwn i chi dagio @LlywodraethCym mewn unrhyw bostiadau ar-lein.

Diolch ymlaen llaw am eich cymorth.

 

Hello,

According to recent research, we know that there are thousands of people in Wales who are not yet claiming the benefits that they are entitled to.

The Welsh Government have launched an integrated communications campaign to encourage people to check and claim the benefits they are entitled to. The campaign will be targeting low-income families across Wales, as well as a wider audience of people who may now need support due to the financial impacts of the pandemic.

We will be directing people to a designated campaign landing page housed on the Welsh Government website gov.wales/claim-whats-yours  where we will encourage visitors to call Advicelink Cymru’s helpline direct for support on 0808 250 5700. 

 

We need your help to raise awareness of the campaign across your channels and networks, reaching out to people who are not yet claiming for benefits they may be entitled to.

We have developed a set of assets (including a press advert, A5 leaflet and social media videos x 4) which can easily be added to websites and social channels.

Tagging on social media

We’ve provided suggested social media copy in both Welsh and English to support the digital assets that have been created if you are happy to post directly from your channels. We would also advise using #claimwhatsyours / #hawliadyarian where possible.

All paid content will be promoted from the Welsh Government social media channels so we would ask you to tag @WelshGovernment in any online posts.

Thank you in advance for your support.

 

 

 

Back to News